Cyfarfod y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar ddydd Iau 7 Mawrth 2013
Papur Tystiolaeth ar Gynnydd yn erbyn yr Adolygiad o Gapasiti Newyddenedigol
Pwrpas y Papur
Rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc am gynnydd yn erbyn yr ail Adolygiad o Gapasiti Newyddenedigol a gyhoeddwyd yn Ionawr 2012.
Adolygiad o Gapasiti Newyddenedigol 2013
Cafodd diweddariad 2013 o’r Adolygiad o Gapasiti Newyddenedigol ei drafod a’i gymeradwyo gan y Rhwydwaith Newyddenedigol ar 7 Chwefror 2013. Bydd y Rhwydwaith Newyddenedigol yn rhoi copi o’r adolygiad i’r Pwyllgor ac yn cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor.
Cydnabyddaf fod pethau wedi gwella dros y flwyddyn ddiwethaf mewn sawl ardal, ond gwn fod angen mwy o waith i barhau i godi safonau yng ngwasanaethau’r maes hwn.
Cynnydd er Ionawr 2012
Nifer a lleoliad y cotiau
Gwelwyd rhywfaint o welliant cyffredinol yn niferoedd y cotiau. Yn ystod 2012, ailystyriodd nifer o unedau eu dyraniadau cotiau er mwyn gweithredu argymhellion Adolygiad 2012.
Yn Chwefror 2012, ailddynodwyd y cot Gofal Dwys yn Nevill Hall ar gyfer gofal dibyniaeth fawr. Yn Nhachwedd 2012, symudwyd dau got Gofal Dwys i Ysbyty Singleton o Ysbyty Tywysoges Cymru, i sicrhau gwell defnydd ohonynt am eu bod yn cael eu tanddefnyddio. Hefyd, symudwyd pedwar cot gofal arbennig i Ysbyty Tywysoges Cymru o Singleton. Yn Ysbyty Glan Clwyd, ailddynodwyd cotiau yng Ngorffennaf 2012 i adlewyrchu’r gweithgarwch yn well ar draws y tair lefel o ofal.
Gweithlu
Mae materion staffio yn her fawr o hyd a thynnir sylw at hyn yn yr adolygiad diweddaraf o gapasiti. Cydnabyddir bod angen mwy o waith ar hyn a rhoddaf y manylion yn yr adran heriau isod. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd gwelwyd rhywfaint o welliant yn lefelau staffio nyrsys sy’n rhoi gofal uniongyrchol. Mae’r bwlch yn nifer y nyrsys sydd eu hangen wedi gostwng bron 50% o 82.64 cyfwerth ag amser cyflawn yn yr adolygiad cynt i 42.027 cyfwerth ag amser cyflawn yn yr adolygiad hwn.
Mae’r gwaith o gydgysylltu’r addysgu a’r hyfforddi wedi gwella dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae cyfleoedd hyfforddi amlbroffesiynol wedi’u datblygu.
Data a gwybodaeth
Mae rhoi’r system Technoleg Gwybodaeth Newyddenedigol BadgerNet ar waith wedi arwain at welliant aruthrol yn yr wybodaeth sydd ar gael i hwyluso cynllunio gwasanaethau. Mae gan Fyrddau Iechyd a’r rhwydwaith well dealltwriaeth o lawer bellach o’r gweithgarwch a’r llif cleifion o fewn a rhwng gwasanaethau newyddenedigol.
Defnyddir yr wybodaeth hon hefyd i wella’r cyfathrebu rhwng unedau, i’w galluogi i ganolbwyntio gweithgarwch ar draws ardaloedd daearyddol ac i beidio â chanolbwyntio ar weithgarwch BILl unigol.
Mae’r Rhwydwaith wedi bod yn cydweithio â’r holl unedau yng Nghymru i’w helpu i fabwysiadu offeryn aciwiti nyrsys y newydd-anedig a ddatblygwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Mae’r offeryn yn mesur, yn feunyddiol, y staff sydd ar gael mewn uned ac aciwiti’r cleifion ac yn cysylltu â pholisi galw cynyddol yr Uned. Mae’n nodi aciwiti cotiau yn erbyn y staff sydd ar gael ac yn dangos pan fydd lefelau diogel o ofal yn cael eu torri.
Bydd cyflwyno’r offeryn aciwiti nyrsys ar draws holl unedau Cymru yn darparu, yn y dyfodol, asesiad o gydymffurfiaeth fesul sifft. Mae hyn yn ychwanegol at yr hyn a gesglir yn awr, sy’n seiliedig ar y nyrsys a recriwtiwyd heb ystyried a yw cotiau’n cael eu defnyddio ai peidio.
Meysydd eraill lle y gwelwyd cynnydd
Heriau a Blaenoriaethau ar gyfer 2013
Nifer y cotiau
Mae prinder cotiau o hyd. Gwaethygir rhai o’r problemau capasiti hyn gan ddefnydd amhriodol o gotiau a chan y ffaith na chaiff babanod eu symud i lawr yn briodol drwy’r system i ryddhau cotiau gofal dwys. Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi cymeradwyo achos busnes i ddarparu dau got arall ar gyfer dibyniaeth fawr. Bydd y cotiau newydd hyn yn gwella’r gwasanaeth drwy ddod ag arian yn ôl i Gymru a ddefnyddir ar hyn o bryd i dalu am gotiau y tu allan i rwydwaith y wlad am nad oes digon o gapasiti i ymdopi â chynnydd sydyn mewn galw.
Mae’r Rhwydwaith yn cydweithio â BILl a’r Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol i wella niferoedd y cotiau yn unol ag argymhellion yn Adolygiad o Gapasiti 2013.
Mae’r Adolygiad o Gapasiti yn tanlinellu pwysigrwydd defnyddio model gwasanaeth ledled Cymru sy’n cydymffurfio â safonau y cytunwyd arnynt, i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i fabanod sy’n sâl ac a anwyd cyn pryd.
Gweithlu
Mae mynd ati i ddatrys problemau’r gweithlu yn flaenoriaeth allweddol. Mae’r Rhwydwaith Newyddenedigol yn:
· Datblygu cynllun cadarn ar y gweithlu newyddenedigol (meddygol, nyrsio, therapïau) ar gyfer y 5-10 mlynedd nesaf
· Cydweithio â BILl i sefydlu rhaglenni cylchdroi clinigol ar gyfer nyrsys i helpu i ddatblygu cymwyseddau
· Datblygu hyfforddiant amlbroffesiynol, yn seiliedig ar archwiliad o anghenion ar draws BILl
· Rhoi’r offeryn aciwiti nyrsys ar waith.
Cludiant
Mae’r Rhwydwaith Newyddenedigol yn:
· Cydweithio â BILl, drwy weithgor, i gytuno ar gynlluniau i estyn y gwasanaeth cludo 12 awr presennol
· Parhau i gydweithio â phartneriaid i wireddu synergeddau posibl o ddatblygiad y gwasanaeth ambiwlans awyr
· Ymgysylltu â BILl ar ofynion cludo sy’n deillio o gynlluniau ad-drefnu.
Seilwaith ffisegol
Mae angen gwella’r amgylchedd ffisegol mewn sawl uned. I sicrhau hyn, cymeradwyais yn ddiweddar £3.24 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer gwaith ailwampio mawr yn Uned Newyddenedigol Ysbyty Singleton, Abertawe.
Mae’r Uned yn darparu gwasanaethau ledled de-orllewin Cymru ar gyfer mamau sydd â risgiau mawr yn gysylltiedig â’u beichiogrwydd ac sy’n cael eu trosglwyddo o unedau eraill i esgor. Mae hefyd yn gofalu am fabanod sâl a anwyd mor gynnar â 23 wythnos, sy’n cael eu trosglwyddo o unedau eraill ar gyfer gofal dwys.
Bydd yr ailwampio’n darparu cyfleusterau ynysu ac yn caniatáu i’r Uned Newyddenedigol ‘estyn’ cotiau o 12 i 18 cot Triniaeth Ddwys/Dibyniaeth Fawr yn dibynnu ar lefel y gofal sy’n ofynnol. Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys gwelyau i rieni, ystafell dawel a chyfleusterau storio newydd.
Atebolrwydd
Er 2012 rwyf wedi cymryd a chymeradwyo’r camau canlynol:
Byddaf yn parhau i alw BILl i gyfrif gan ddefnyddio gwybodaeth gan y Rhwydwaith Newyddenedigol ar y safonau a gyrhaeddwyd.
Lesley Griffiths AC
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol